Nid yw JobSense ar gael yn Nwyrain Cymru erbyn hyn. Mae ceisiadau bellach ar gau.
Mae JobSense ar gael o hyd yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, lle mae’n cael ei ddarparu gan ELITE Supported Employment.
Beth yw JobSense
Gwasanaeth cyflogaeth yw JobSense, sy’n cefnogi pobl yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd dros 25 oed sy’n fyddar, sydd â nam ar eu clyw, a/neu nam ar eu golwg. Ei nod yw ennill cymwysterau, profiad a rhoi cyfle i bobl ddod o hyd i waith.
BSL: beth yw JobSense
Ble mae JobSense ar gael
Mae JobSense yn derbyn ceisiadau newydd gan bobl yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd yn unig:
- Ynys Môn
- Ogwen
- Gwynedd
- Ceredigion
- Sir Benfro
- Sir Gaerfyrddin
- Abertawe
- Castell-nedd a Phort Talbot
- Rhondda Cynon Taf
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont
- Sir Ddinbych
- Caerffili
- Torfaen
- Blaenau Gwent.
BSL: ble mae JobSense ar gael
Pwy sy’n gallu gwneud cais
Nid yw JobSense ar gael yn Nwyrain Cymru erbyn hyn. Mae ceisiadau bellach ar gau.
Ymdrinnir â cheisiadau am JobSense yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd gan ELITE Supported Employment. Ewch i wefan ELITE Supported Employment
BSL: pwy sy’n gallu gwneud cais
Sut gallwch chi gael budd o JobSense
Unigolion
Bydd ymgynghorydd cyflogaeth arbenigol yn gweithio gyda chi ar sail un i un. Bydd hefyd wedi’i hyfforddi mewn ymwybyddiaeth o golli’r synhwyrau. Mae llawer o’n cynghorwyr wedi byw gyda nam ar eu clyw neu eu golwg, ac yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Bydd y cynghorwyr yn:
- adolygu eich addysg, hanes gwaith, sgiliau, diddordebau ac amcanion
- eich helpu i chwilio am gyfleoedd dysgu a hyfforddiant
- eich cefnogi i oresgyn unrhyw rwystrau wrth geisio cael gafael ar wybodaeth, cyfathrebu neu deithio
- eich helpu i lunio eich CV, chwilio am swyddi a gwneud cais ar eu cyfer, yn ogystal â pharatoi ar gyfer cyfweliadau.
BSL: unigolion
Cyflogwyr
Mae JobSense yn cefnogi cyflogwyr i fod yn llwyddiannus wrth recriwtio pobl fyddar, a’r rhai sydd ar nam ar eu golwg a’u clyw. Gall y cynghorwyr wneud y canlynol:
- darparu gwybodaeth am hyfforddiant ymwybyddiaeth colli clyw a golwg
- eich cefnogi i ddehongli a gweithredu deddfwriaeth gyflogaeth
- eich cynghori ynghylch Mynediad at Waith (sef cronfa’r Llywodraeth i ddarparu cymorth ymarferol i berson yn y gwaith)
- darparu cyngor ynghylch gwneud addasiadau rhesymol a’ch cefnogi gyda threialon gwaith.
BSL: cyflogwyr
Cysylltu â ni
- E-bost
- [email protected]
Partneriaid a chyllidwyr
Partneriaeth â’r canlynol yw JobSense:
Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gefnogi gan £3m oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.