This research opportunity is now closed.
Gwyliwch y tudalen hon yn BSL
Gwyliwch y tudalen hon yn ISL
Gan weithio gyda’r Comisiwn Etholiadol rydym yn archwilio ffyrdd o wella gwybodaeth am sut i bleidleisio mewn etholiadau ar gyfer pobl fyddar a phobl â nam ar eu clyw. Helpwch ni drwy gymryd rhan mewn rhai tasgau ymchwil y gaeaf hwn, p’un a ydych yn bleidleisiwr profiadol neu’n newydd i bleidleisio.
Mae ein holl dasgau ymchwil yn hygyrch i BSL. Os oes angen cyfieithiad Iaith Arwyddion Gwyddeleg arnoch, neu gopi o’r ymchwil yn Gymraeg, cysylltwch â ni.
Adolygu gwybodaeth am etholiadau
Trwy brofion ar-lein, grwpiau ffocws a chyfweliadau, rydym am glywed eich barn a’ch adborth ar sut mae gwybodaeth am bleidleisio mewn etholiadau yn cael ei rhannu. Byddwn yn edrych ar fideos, tudalennau gwe a phosteri (a wnaed gan y Comisiwn Etholiadol) sy’n esbonio sut i gofrestru i bleidleisio a phrosesau pleidleisio.
Rydym eisiau deall pa fath o wybodaeth sy’n gweithio’n dda i chi a pha wybodaeth fyddai’n ddefnyddiol yn y dyfodol.
Mae gennym ddiddordeb arbennig ym mhrofiadau defnyddwyr iaith arwyddion.
Ein tasgau ymchwil
Rydym yn cynnal tri math o dasgau ymchwil y gallwch chi gymryd rhan ynddynt. Mae croeso i chi gymryd rhan mewn cynifer neu gyn lleied ag y dymunwch.
Trwy dasg ar-lein yn adolygu deunyddiau’r Comisiwn Etholiadol, byddwn yn gofyn cwestiynau i chi am eich profiad pleidleisio blaenorol, sut rydych fel arfer yn dod o hyd i wybodaeth am etholiadau, a byddwn yn adolygu sut mae’r deunyddiau hyn yn effeithio ar eich hyder wrth bleidleisio.
Trwy grwpiau ffocws bach, byddwn yn archwilio pa wybodaeth sy’n hybu hyder a pharodrwydd ar gyfer pleidleisio.
Trwy gyfweliadau un i un, byddwch chi a’n hymchwilydd yn trafod sut rydych fel arfer yn cyrchu gwybodaeth i bleidleiswyr, a pha wybodaeth sy’n rhoi hwb i’ch hyder wrth bleidleisio mewn etholiadau.
Pwy all wneud cais
Mae gennym ddiddordeb ym marn pleidleiswyr profiadol a’r rhai sy’n newydd i bleidleisio. I gymryd rhan yn ein tasgau ymchwil rhaid i chi fod:
gymryd rhan yn ein tasgau ymchwil rhaid i chi fod:
- Yn fyddar neu â nam ar eich clyw
- Yn 16 oed neu’n hŷn yng Nghymru a’r Alban; neu’n 18 oed neu’n hŷn yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
- Yn gymwys i bleidleisio (gallwch ddysgu rhagor ar wefan y Comisiwn Etholiadol).
- Ar gael yn ystod dyddiadau’r tasgau ymchwil.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cwblhewch yr arolwg. Gallwch ddod o hyd i ddolen botwm i’r arolwg yn yr adran ‘diddordeb mewn cymryd rhan?’ ar y dudalen we isod. Rydym angen mwy o fanylion gennych chi i wneud yn siŵr bod gennym amrywiaeth o bobl wedi’u cynnwys yn ein hymchwil. Byddwn yn gofyn ychydig mwy o gwestiynau amdanoch chi eich hun a pha dasgau ymchwil yr hoffech chi gymryd rhan ynddynt.
Byddwn yn dewis tua 60 o bobl i gymryd rhan mewn un neu fwy o’r tasgau ymchwil ac yn eu gwahodd i gymryd rhan drwy e-bost. Os cewch eich dewis, byddwch yn derbyn taleb siopa gwerth £25 fel diolch am eich amser.
Cysylltwch â ni
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected].