Old name, new purpose: why we’ve gone back to RNID

Gwasanaeth Cyflogaeth SwyddSynnwyr

Nid yw JobSense ar gael yn Nwyrain Cymru erbyn hyn. Mae ceisiadau bellach ar gau.

Mae JobSense ar gael o hyd yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, lle mae’n cael ei ddarparu gan ELITE Supported Employment.

Darllenwch fwy o wybodaeth ar wefan ELITE

Cysylltu ag ELITE

Beth yw JobSense

Gwasanaeth cyflogaeth yw JobSense, sy’n cefnogi pobl yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd dros 25 oed sy’n fyddar, sydd â nam ar eu clyw, a/neu nam ar eu golwg. Ei nod yw ennill cymwysterau, profiad a rhoi cyfle i bobl ddod o hyd i waith.

BSL: beth yw JobSense

Ble mae JobSense ar gael

Mae JobSense yn derbyn ceisiadau newydd gan bobl yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd yn unig: 

  • Ynys Môn 
  • Ogwen 
  • Gwynedd 
  • Ceredigion 
  • Sir Benfro 
  • Sir Gaerfyrddin 
  • Abertawe 
  • Castell-nedd a Phort Talbot 
  • Rhondda Cynon Taf 
  • Merthyr Tudful 
  • Pen-y-bont 
  • Sir Ddinbych 
  • Caerffili 
  • Torfaen 
  • Blaenau Gwent. 
BSL: ble mae JobSense ar gael

Pwy sy’n gallu gwneud cais

Nid yw JobSense ar gael yn Nwyrain Cymru erbyn hyn. Mae ceisiadau bellach ar gau.

Ymdrinnir â cheisiadau am JobSense yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd gan ELITE Supported Employment. Ewch i wefan ELITE Supported Employment 

BSL: pwy sy’n gallu gwneud cais

Sut gallwch chi gael budd o JobSense

Unigolion

Bydd ymgynghorydd cyflogaeth arbenigol yn gweithio gyda chi ar sail un i un. Bydd hefyd wedi’i hyfforddi mewn ymwybyddiaeth o golli’r synhwyrau. Mae llawer o’n cynghorwyr wedi byw gyda nam ar eu clyw neu eu golwg, ac yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Bydd y cynghorwyr yn: 

  • adolygu eich addysg, hanes gwaith, sgiliau, diddordebau ac amcanion
  • eich helpu i chwilio am gyfleoedd dysgu a hyfforddiant 
  • eich cefnogi i oresgyn unrhyw rwystrau wrth geisio cael gafael ar wybodaeth, cyfathrebu neu deithio 
  • eich helpu i lunio eich CV, chwilio am swyddi a gwneud cais ar eu cyfer, yn ogystal â pharatoi ar gyfer cyfweliadau.
BSL: unigolion

Cyflogwyr

Mae JobSense yn cefnogi cyflogwyr i fod yn llwyddiannus wrth recriwtio pobl fyddar, a’r rhai sydd ar nam ar eu golwg a’u clyw. Gall y cynghorwyr wneud y canlynol: 

  • darparu gwybodaeth am hyfforddiant ymwybyddiaeth colli clyw a golwg 
  • eich cefnogi i ddehongli a gweithredu deddfwriaeth gyflogaeth 
  • eich cynghori ynghylch Mynediad at Waith (sef cronfa’r Llywodraeth i ddarparu cymorth ymarferol i berson yn y gwaith) 
  • darparu cyngor ynghylch gwneud addasiadau rhesymol a’ch cefnogi gyda threialon gwaith.
BSL: cyflogwyr

Cysylltu â ni


Partneriaid a chyllidwyr

Partneriaeth â’r canlynol yw JobSense:

Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i gefnogi gan £3m oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Page last updated: 5 April 2023

Back to top